Newyddion o Ysgol Bryngwyn

Unwaith eto, bu'n flwyddyn hynod o brysur iawn i adran Gymraeg Ysgol Bryngwyn. Dyma grynodeb o'r prif ddigwyddiadau:

Iaith ar waith

Pob mis Gorffennaf, cynhelir diwrnod o Iaith ar Waith yn Neuadd yr ysgol I ddisgyblion blwyddyn naw.
Pwrpas y diwrnod yw dangos pwysicrwydd cymhwyster yn y Gymraeg ym myd gwaith wrth geisio am swydd.
Daeth nifer fawr o gynrycholwyr cwmniau ar y diwrnod gan gynnwys Bwrdd yr Iaith Gymraeg, cwmniau teledu Telesgop ac S4C, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Menter Iaith Llanelli a Choleg Sir Gar.
Cynhaliwyd sesiynau ymarferol a gweithdai i'r plant yn ystod y diwnod. Cyflwynwyd sawl gwobr am waith da yn y sesiynau ymarferol.

Eisteddfod Yr Ysgol

Bu'r pedwar llys yn yr ysgol sef Tywi, Lliedi, Morlais a Cothi yn ymladd yn frwd ar Ddydd Gwyl Dewi er mwyn ennill tarian yr Eisteddfod. Roedd y cystadlaethau yn amrywio o Lefaru i Ddawnsio Disgo. Llys Tywi oedd yn fuddugol eleni.
Yr Urdd

Cynhaliwyd ein taith flynyddol i wersyll yr Urdd Langrannog ym mis Chwefror. Yn wahanol i'r arfer, roedd y tywydd yn ffafriol a mwynheuodd y disgyblion a'r staff benwythnos gwych. (Lun o rai o'r disgyblion yn mwynhau'r gwithgareddau).

Nofio

Mae disgyblion Ysgol Bryngwyn wedi bod yn llwydiannus iawn dros y blynyddoedd yn y gamp hon. Doedd eleni ddim yr eithriad i'r rheol. Yng Ngala Nofio Sir yr Urdd, fe enillodd y tim cyfnewid bechgyn y rasau rhydd a chymysg, ac felly aethon nhw ymlaen i gynrychioli'r ysgol yn y Gala Cenedlaethol ym Mangor ym mis Ionawr. Fel yn y blynyddoedd cynt, fe ddaethon nhw'n ail i Ysgol Greenhill Dinbych y Pysgod o drwch y blewyn yn y ddwy ras. Wrth lwc, fe gawson nhw'r cyfle i dalu'r pwyth yn ol ym mis Mawrth yn y gala Nofio Rasau Cyfnewid Cenedlaethol yn Aberhonddu. Y tro yma, fe enillon nhw'r ddwy ras a dod yn ol i'r ysgol yn fuddugol gyda'r cwpan.
Ymweliadau

Ar Fawrth y cyntaf, fe aeth criw o blant blwyddyn naw a deg i Ganolfan Casnewydd i fod yn rhan o'r gynulleidfa yng Nghystadleuaeth Can i Gymru 2005. Fe fwynheuodd pawb y profiad anhygoel o fod mewn stiwdio deledu ac yn rhan o ddarllediad byw. Fe gafodd y disgyblion y cyfle i bleidleisio dros eu hoff gan yn ystod y rhaglen.
Ym mis Chwefror, aeth grwp o blant blwyddyn deg i Gaerdydd fel rhan o'u cwrs TGAU. Fe ymwelon ni ag adeilad y Cynllulliad yn y bae gyda chyfle I grwydro'r bae am ychydig cyn troi am adref.
Ar y Gorwel

Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd Caerdydd ym mis Mai. Ymweliad a stiwdio deledu ITV Cymru ym mis Tachwedd.
Diwrnod Iaith ar Waith ym mis Gorffennaf.
Powered by Recipero Working together with BT